Brain Tumour Support Cymru

P’un a ydych chi’n glaf, yn aelod o’r teulu, yn ffrind, neu’n ofalwr, mae Brain Tumour Support Cymru yma i chi.

Cynigiwn grwpiau wyneb yn wyneb ac ar-lein, cymorth emosiynol personol, cwnsela, a chymorth gyda budd-daliadau lles. Mae ein gwasanaethau yn agored i bobl sy’n byw unrhyw le yng Nghymru.

 

Read this page in English

Dyma Gavin Davies

Gav yw Gweithiwr Cymorth Brain Tumour Support Cymru. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â Maggie’s yng ngrŵp cymorth Caerdydd, yn hwyluso cymorth cymunedol lleol ac yn cynnig cymorth emosiynol personol dros y ffôn, trwy neges destun, ar-lein, a thrwy e-bost.

Darganfod am Gav

Gavin Davies, Brain Tumour Support Professional for Wales

Cymorth yng Nghymru

Cynigiwn gymorth teilwredig i bobl ledled y wlad, gan weithio’n agos gyda thimau clinigol mewn ysbytai i sicrhau nad ydych chi’n wynebu diagnosis o diwmor ar yr ymennydd ar eich pen eich hun.

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:

  • Grŵp cymorth yng Nghaerdydd – Grŵp wyneb yn wyneb rheolaidd a gyd-hwylusir gan ein Gweithiwr Cymorth, Gav Davies, staff Maggie’s, a nyrsys arbenigol
  • Cyfarfodydd lleol a chymorth cymunedol – Cyfarfodydd anffurfiol i gleifion a theuluoedd
  • Cymorth emosiynol personol – dros y ffôn, ar-lein, trwy neges destun ac e-bost, pan fyddwch chi eisiau siarad
  • Mynediad at ein grwpiau cymorth ar-lein
  • Mynediad at ein gwasanaeth cwnsela arbenigol
  • Cymorth a chyngor ar fudd-daliadau lles


Cysylltu ac atgyfeiriadau

Llinell gymorth: 01454 422 701

E-bost gymorth: support@braintumoursupport.co.uk

Gwybodaeth i clinigwyr

Taflen i clinigwyr

 


Cwestiynau Cyffredin

Unrhyw un yng Nghymru sydd wedi’i effeithio gan diwmor ar yr ymennydd: cleifion, teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr.

Na. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol, neu gall aelod o’ch tîm clinigol eich atgyfeirio gyda’ch caniatâd.

Na. Mae ein holl wasanaethau cymorth yn rhad ac am ddim i’w defnyddio.

Fel arfer, caiff grwpiau eu cynnal ar Zoom gyda hwylusydd yn bresennol. Byddwn yn anfon manylion ar sut i ymuno unwaith y byddwch wedi cofrestru.

Byddwch yn godwr arian gwirfoddol

Beth am gofrestru i fod yn godwr arian gwirfoddol yn eich ardal leol? O foreau coffi i ddigwyddiadau heriol, mae yna sawl ffordd o wneud gwahaniaeth:
• Digwyddiadau cymunedol
• Codi arian er cof am rywun
• Heriau noddedig
• Cymorth corfforaethol

Become a volunteer
Three ladies smiling and wearing Brain Tumour Support charity tabards, standing behind a table with tea cups and cake stand filled with scones and cakes